Lles yn y gweithle
Gall gwaith ddod â heriau yn aml ond mae Covid-19 wedi dod ag anawsterau ychwanegol i ni a allai fod wedi effeithio ar ein hiechyd corfforol a meddyliol.
Efallai y bydd gan eich cyflogwr wasanaethau i'ch cefnogi felly byddem yn argymell eich bod yn siarad â nhw fel man galw cyntaf. Gall yr adnoddau a'r dolenni isod fod yn ddefnyddiol hefyd.
Hunanofal
Mae hunanofal ar gyfer pawb, nid dim ond y rhai sy'n cael trafferth gyda salwch meddwl. Gall gwneud newidiadau i ofalu amdanom ein hunain gael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd meddwl, a gallai hyd yn oed atal anawsterau rhag gwaethygu.
Cofiwch fod hunanofal yn fan cychwyn, ac nid yn lle ceisio cymorth proffesiynol. Ni ddylech fyth deimlo bod yn rhaid i chi ddelio â'ch problemau ar eich pen eich hun.
Apiau ac adnoddau hunanofal
Canolfan Ymwybyddiaeth Ofalgar Rhydychen
Mae Sefydliad Ymwybyddiaeth Ofalgar Rhydychen yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol am addysgu a hyfforddi ymwybyddiaeth ofalgar. Rydym yn cydweithio â nifer o sefydliadau rhyngwladol i gyflawni ein gweledigaeth o fyd lle mae mynediad cyffredinol at ymwybyddiaeth ofalgar a gwell dealltwriaeth a derbynioldeb o effaith ymddygiad ystyriol.
Gwasanaethau a chymorth Lles yn y Gwaith
Mae gan Gyngor Abertawe ddau safle corfforaethol i gefnogi lles staff:
Ar gyfer cyngor a chymorth penodol, cynghorir staff addysgu i ymgynghori â'u hundebau eu hunain, gan gynnwys: