Os ydych chi'n gweithio yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, a'ch bod yn poeni am rywun rydych chi'n gweithio gyda nhw, mae cyngor a chefnogaeth wrth law. Darperir rhai gwasanaethau yn rhanbarthol, fel y gwasanaeth 111, opsiwn 2. Fodd bynnag, mae cynghorau lleol yn darparu ac yn comisiynu nifer o wasanaethau sy'n benodol i'w poblogaethau. Byddwch hefyd yn dod o hyd i ystod eang o sefydliadau trydydd sector sy'n cynnig cefnogaeth yn eich ardal leol.
Mae'r dudalen hon hefyd yn cynnwys gwybodaeth am hyfforddiant sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl a lles, yn ogystal ag awgrymiadau a chymorth i gadw'ch hun yn emosiynol yn iach.