Os ydych chi'n byw yn Abertawe neu Gastell-nedd Port Talbot, rydyn ni yma i'ch helpu chi i ddeall y ffordd rydych chi'n teimlo a dod o hyd i'r cyngor a'r gefnogaeth gywir.
Os ydych chi wedi anafu'ch hun yn ddifrifol neu wedi cymryd gorddos, mae'n bwysig iawn eich bod chi'n ffonio 999 nawr neu'n ceisio triniaeth feddygol ar unwaith gan adrannau damweiniau ac achosion brys.
Mae cymorth iechyd meddwl 24/7 bellach ar gael dros y ffôn ym Mae Abertawe gan weithwyr proffesiynol y GIG. Ffoniwch: 111 opsiwn 2
Deiet, ymarfer corff a chwsg yw pileri iechyd meddwl da.
Gall llawer o bethau ddigwydd yn ein bywydau a all effeithio ar ein lles emosiynol. Cliciwch isod am wybodaeth ac arweiniad ar sut i gael help.
Ddim yn siŵr a oes angen cefnogaeth arnoch ai peidio? Dyma rai cliwiau i'ch helpu i benderfynu, ynghyd â rhai awgrymiadau defnyddiol ar ofalu amdanoch chi'ch hun.
Cymerwch gip ar y gwasanaethau i gefnogi pobl gyda'u hiechyd a'u lles emosiynol ym Mae Abertawe (Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot).
Os ydych chi'n gofalu am rywun, mae gennym wybodaeth, adnoddau a chefnogaeth a allai fod o gymorth.